||
“Sbardun ar gyfer rhagoriaeth”
Website URL : http://www.ssiacymru.org.uk/index.cfm?articleid=1912
|
|
||
Cynhadledd Werthuso Cymru Gyfan
Cynhaliwyd Cynhadledd Werthuso gyntaf Cymru Gyfan at gyfer Partneriaethau Plant a Phobl Ifanc yng Ngwesty’r Metropole, Llandrindod ddydd Mawrth 13 Medi 2005. Trefnwyd yr achlysur gan Swyddogion Ymchwil o Bartneriaethau ledled Cymru gyda chymorth Adran Strategaeth Plant Llywodraeth y Cynulliad. Nod y gynhadledd oedd rhannu profiadau a hyrwyddo arfer da o ran gwerthuso gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc. Roedd bron 100 o bobl yno'n cynrychioli pob un o'r 22 Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru a chawsant y cyfle i gymryd rhan mewn gweithdai amrywiol drwy gydol y dydd. Roedd hwyluswyr y gweithdai'n cynnwys cynrychiolwyr o LlCC, Barnardo's, Prifysgol Llundain, Third Sector First a Phrifysgol Leeds, Swyddfa Archwilio Cymru a Phartneriaeth Plant a Phobl Ifanc Caerdydd. Cafwyd cyflwyniadau llawn gwybodaeth gan York Consulting ynghylch ' Gwerthusiad Cenedlaethol o Cymorth / Fframweithiau a Hawliadau Cynnar'; ac Irene Allen o LlCC (nid oedd David Middleton yn gallu dod, yn anffodus) ynghylch goblygiadau Fframwaith Cenedlaethol y Gwasanaeth a'r effaith fydd yn ei gael ar wasanaethau plant a phobl ifanc.
|
|